Ciw-restr

Y Llyffantod

Llinellau gan Hen Wraig (Cyfanswm: 31)

 
(0, 1) 595 Pwy ydach chi, deudwch?
(0, 1) 596 Dyn y Llywodraeth?
 
(0, 1) 599 Wel edrych yma, machgen i, wn i ddim sut rydach chi'n disgwyl inni fyw.
(0, 1) 600 Ni, yr hen begnos, ar ein mymryn pensiwn.
(0, 1) 601 A'r prisia mor uchel.
(0, 1) 602 Cynilo hyd at yr asgwrn.
(0, 1) 603 Byw ar botas-maip a sucan.
(0, 1) 604 Ac eto'n hanner llwgu.
 
(0, 1) 606 Ac yn fferru gyda'r nos heb dewyn o dân.
(0, 1) 607 Dydan ni ddim yn gofyn am gardod, w'sti.
(0, 1) 608 Dim ond ichi gofio bod gynnon ni dipyn bach o hunan-barch o hyd.
(0, 1) 609 Mi ddylen ni gael ein trin fel pobol nid fel sbwriel wedi cael ei daflu ar y domen.
 
(0, 1) 613 Be?
 
(0, 1) 616 Wn i ddim be wnawn ni pan ddaw'r gaea', a'r gwynt a'r glaw a'r tarth.
(0, 1) 617 Mi fydd rhen fegin yma'n gwichian fel olwyn ferfa.
(0, 1) 618 Mi ddweda i wrtha ti be hoffwn i, os ca'i fyw ac iach, 'machgen i.
(0, 1) 619 Cael mynd o'r hen fyd yma, pan ddaw f'amser, efo traed cynnes.
(0, 1) 620 Dydy o ddim llawer i ofyn.
(0, 1) 621 Ond yn ormod i' ddisgwyl reit siwr.
 
(0, 1) 623 Ia, wel, peswch sych diwedd pob nych, meddan nhw, ynte...
(0, 1) 624 Ia siwr...
(0, 1) 625 Digon gwir...
(0, 1) 626 Digon gwir!
 
(0, 2) 973 Dyn y Llywodraeth ydy o, deudwch?
(0, 2) 974 Digon hawdd iddo fo dorsythu a swagro o gwmpas fel congrinero!
(0, 2) 975 Mae o'n cael llond 'i fol o fwyd yn amlwg!
(0, 2) 976 Nid run fath â ni, yr hen bobol, sy'n gorfod byw ar wellt ein gwely bron.
(0, 2) 977 Pensiwn wir!
(0, 2) 978 Edrychwch arna i — mi fydda i mor dena â weiran-gaws gyda hyn.
 
(0, 2) 980 Mae'r hen wlad yma'n mynd â'i phen iddi.
(0, 2) 981 Dyna'r gwir i chi... âi phen iddi...